Blog Banner

Buddugoliaeth yn deyrnged i gymeriad y garfan meddai Williams

Cymraeg | 27th September 2021


Roedd y fuddugoliaeth dros Connacht yn deyrnged i gymeriad y garfan, meddai Lloyd Williams, wedi i Gaerdydd oresgyn anafiadau i’w maswyr.

Roedd rhaid i’r mewnwr gamu mewn i’r safle rhif 10 am awr o ornest agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener, wedi i Rhys Priestland a Jarrod Evans gael eu gorfodi o’r maes o fewn yr 20 munud cyntaf.

Ond, gyda’r dyletswyddau cicio yn disgyn i Tomos Williams, fe lywiodd y ddau y tîm cartref i hawlio’r pum pwynt cyfan yn erbyn y Gwyddelod.

Roedd y mewnwr rhyngwladol yn falch o weld ei dîm yn dod at ei gilydd i frwydro yn erbyn y sialens a chychwyn y tymor mewn steil.

“Yn anffodus, roedd Rhys a Jarrod wedi mynd lawr gyda anaf a oedd rhaid i mi chwarae fel maswr.

“Ond mae’r symudiadau yr un peth a chwarae teg i’r bois o gwmpas fi, fel Tomos, Willis a Rey am helpu fi lot ar y noson.

“Roedd y blaenwyr wedi gwneud yn hynod o dda yn yr ail hanner felly ni’n bles bod ni wedi gallu cael y canlyniad.

“Galwad yr hyfforddwyr oedd e, ond roedd pawb yn ystyried bod y cefnwyr i gyd yn gallu chwarae yno a chadw strwythr y gêm.

“Roedd yr hanner cyntaf yn anodd, wrth geisio dod i arfer gyda’r safle, Yn yr ail hanner, fe wnaeth pethau agor lan a roedd y gwaith yn dechrau talu bant.

“Mae hi wastad yn dda i ddechrau’r tymor drwy guro tîm fel Connacht. Mae’n rhoi hwb i’r garfan.

“Ni wedi paratoi lot dros yr Haf a chwarae teg i’r garfan i gyd, roedd pawb yn barod ar gyfer y sialens yma.

“O’n ni’n bendant ein bod ni am ennill a wnaeth y garfan yn dda i ymdopi gyda’r sialens.

“Roedd y garfan wedi dangos lot o gymeriad i ennill yn y diwedd.”

Yn dychwelyd i’r stadiwm ar gyfer gêm gystadleuol am y tro cyntaf mewn 18 mis, cafodd torf Parc yr Arfau fwynhau saith cais, gan gynnwys dwbwl i Owen Lane.

Tra fod Caerdydd nawr yn wynebu taith i Abertawe i herio’r Gweilch, roedd Williams yn croesawu gweld y dorf yn dychwelyd ac yn falch fod y tîm wedi sicrhau buddugoliaeth o’u blaenau.

“Roedd y dorf wedi chwarae rhan fawr trwy gydol y gêm, a roedd e’n wych i’w weld,” ychwanegodd Williams.

“Mae’n rhywbeth mae’r chwaraewyr yn hapus i’w weld a gobeithio bod nhw wedi mwynhau.

“Dyna beth sydd yn bwysig ar diwedd y dydd felly gobeithio bod nhw wedi mwynhau’r achlysur a mwynhau’r ffaith bod ni wedi ennill.

“Bydd y Gweilch i ffwrdd yn sialens gwahanol ac yn un ni, fel carfan, yn edrych ymlaen tuag ato wythnos nesaf.

“Gallwn ni ddathlu a mwynhau curo rhywun fel Connacht yn y gêm cyntaf ond erbyn dydd Llun bydd y ffocws i gyd ar y Gweilch.”