Blog Banner

Buddugoliaeth llynedd yn rhoi hyder i ni wrth deithio i Ddulyn - Turnbull

Cymraeg | 28th January 2023


Mae Josh Turnbull yn credu gall Caerdydd gymryd hyder o’u buddugoliaeth dros Leinster llynedd, wrth iddyn nhw deithio i Ddulyn heno (CG 5.05yh).

Mae’r Gwyddelwyr wedi ennill pob gêm eleni ac yn eistedd ar frig tabl Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

Ond, ar yr un penwythnos llynedd, fe wnaeth Caerdydd sicrhau buddugoliaeth ddramatig dros dîm Leo Cullen, diolch i gic gosb hwyr gan Jarrod Evans.

Ac er fod chwaraewyr rhyngwladol y ddau dîm yn paratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - sydd yn gychwyn penwythnos nesaf - mae gan y capten ffydd lawn yn y garfan fydd yn teithio i brifddinas Iwerddon.

“Mae siawns da gyda ni. Mae nhw wedi colli nifer o chwaraewyr i garfan Iwerddon. Ni wedi colli cwpwl hefyd ond ni mewn safle da ar y foment,” meddai Turnbull.

“Ni wedi bod yn chwarae rygbi da a’r peth pwysig yw ein bod ni’n mynd mas ‘na a chwarae’r gêm ni moen chwarae.

“Ni angen mynd atyn nhw a creu problemau iddyn nhw. 

“Ni wedi curo’r Stormers eleni pan oedden nhw wedi ennill 15 ar y tro, a mae Leinster wedi ennill 16 neu 17 yn olynol ar y foment.

“Mae siawns gyda ni, ond bydd hi’n anodd a mae nhw’n dîm da.

“Tro diwethaf i ni ennill yn erbyn Leinster, roedd y bois rhyngwladol i ffwrdd hefyd, a’r un peth wrth i ni guro’r Sharks a’r Stormers.

“Y grwp sydd yma ar y foment yw’r bois sydd yn mynd i wneud y job i ni wneud yn siwr ein bod ni yn y play-offs ar ddiwedd y tymor.

“Ni ddim wedi siarad gormod am hynny, ni’n canolbwyntio ar wella pob wythnos. Mae pawb yn dod i’w gwaith ac yn gwneud yn siwr bod nhw’n joio fe.

“Mae sawl gêm fawr dros y sbel yma a bydd hi’n bwysig i ni gael cwpwl o fuddugoliaethau i wthio ni lan y tabl. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n aros gyda’n gilydd fel grwp.”

Yn trafod ei atgofion o’r fuddugoliaeth dros Leinster ym Mharc yr Arfau llynedd, dywedodd y blaenwr rhyngwladol: “Llynedd fi’n cofio’r diwedd, pan oedd Jarrod wedi cicio’r cic gosb olaf. 

“Roedd rhaid i fi ofyn i’r dyfarnwr gael y lle cywir ar y cae a gwneud yn siwr fod siawns da gyda Jarrod i gicio’r bêl.

“O’n ni ar y blaen trwy gydol y gêm yna ar ôl dechrau yn dda. A bydd hynny’n holl bwysig i ni eto penwythnos yma i ganolbwyntio ar beth ni’n gallu gwneud.”