Blog Banner

Amser i ni adeiladu ar ôl dwy fuddugoliaeth dros Scarlets - Adams

Cymraeg | 26th January 2021


Mae Josh Adams eisiau i Gleision Caerdydd adeiladu ar y ddwy fuddugoliaeth dros Scarlets wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau olaf tymor y Guinness PRO14.

Ar ôl trechu’r gwyr o’r gorllewin yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd cais Matthew Morgan a throed Jarrod Evans yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth am yr ail gêm yn olynol ym Mharc y Scarlets nos Wener.

Gyda’r tymor yn dod i ben gyda gemau yn erbyn Connacht, Munster, Benetton a Chaeredin, mae Adams, sydd yn ymuno â charfan Cymru wythnos yma, yn hyderus y gall ei dîm barhau i berfformio yn y gemau nesaf.

“Gobeithio fod hwn yn arwydd da i ni fel tîm. Mae’r dau penwythnos diwethaf wedi bod yn safon lan o beth ni wedi gweld yn ystod gweddill y tymor,” meddai’r seren rhyngwladol.

“Gobeithio nawr y gallwn ni barhau i roi perfformiadau da i mewn fel hyn yn y dyfodol.

“Fel mae pethe’n mynd, ni’n gwybod bod amser tan y gêm nesaf ac felly mae amser gyda ni i adeiladu ar y perfformiadau yma a gobeithio gallwn ni wneud hynny.

“Felly fi’n falch bod ni wedi gallu pigo lan o ble o’n ni wedi gadael yr wythnos blaenorol a fi’n credu mai y gwahaniaeth rhwng y ddwy gêm diwethaf oedd y disgyblaeth. Roedd hynny’n lot gwell.

“Mae hi wedi bod ychydig bach lan a lawr i ni tymor yma hyd yn hyn felly ni’n falch i gael dau berfformiad gwych nawr. 

“Mae lot o fois yn mynd mewn i garfan Cymru a gobeithio gall y garfan gario ymlaen gyda’r momentwm.

“Fi wastad yn edrych ymlaen i fynd mewn i garfan Cymru a mae siawns da gyda ni yn y Chwe Gwlad i adeiladu ar y ffordd o’n ni wedi gorffen yr Hydref yn erbyn Yr Eidal.

“Gobeithio gallwn ni gael Chwe Gwlad llwyddiannus.”

Ar ôl i Cory Hill adael y maes yn yr hanner cyntaf gydag anaf, Adams wnaeth gymryd drosodd fel capten o’r tîm am y tro cyntaf.

Ar ôl mwynhau ei flas cyntaf o arwain y tîm, byddai’r seren rhyngwladol yn fwy nag hapus i gael mwy o gyfleuon fel capten yn y dyfodol, a roedd yn falch o gael cymorth gan chwaraewyr profiadol fel Josh Turnbull, Lloyd Williams a Kristian Dacey ar y cae.

“O’n i’n nerfus a roedd siawns i fynd am y pyst yn y diwedd a hwn oedd gêm cyntaf fi fel capten,” meddai’r asgellwr.

“Felly o’n ni’n gofyn lot o gwestiynau i’r bois am beth o’n nhw’n meddwl a oedden nhw moen cael y bêl yn y gornel. Yn y diwedd, dyna’r penderfyniad cywir felly o’n i’n lwcus!

“Oedd e’n rhywbeth newydd a o’n i wedi joio fe. O’n i wedi diolch i’r bois yn yr ystafell newydd am ennill y gêm a fi’n un mas o un fel capten nawr!

“Ond os yw e’n swydd fi’n cael eto yn y dyfodol, byddai’n falch o’i gael e.

“Mae’r dewis gan yr hyfforddwyr i ddewis y capten ar ôl i Cory fynd bant. Oedd Dan Fish wedi dod lan ata i i ddweud mod i’n gapten ac o’n i ychydig bach yn shocked ond oedd popeth yn iawn. Roedd lot o brofiad o’n gwmpas i ar y cae.”