Blog Banner

Adams yn talu teyrnged i ddylanwad y dorf

Cymraeg | 3rd April 2023


Mae Josh Adams wedi talu teyrnged i ddylanwad y dorf yn dilyn buddugoliaeth Caerdydd dros Sale Sharks dydd Sadwrn.

Roedd y canlyniad yn ddigon i sicrhau lle yn wyth olaf y Cwpan Her i dîm Dai Young, gan gadw y gobeithion o gipio trydydd tlws Ewropaidd yn fyw.

Croesodd yr asgellwr rhyngwladol am ddau gais yn erbyn y tîm o Loegr, sydd yn golygu fod Adams nawr wedi sgorio 11 cais yn ei naw ymddangosiad diwethaf dros y clwb.

Ar ôl wythnos emosiynol yn dilyn marwolaeth Peter Thomas CBE, roedd Adams yn falch o sicrhau’r canlyniad cywir er cof am un o ffigyrau mwyaf dylanwadol yn hanes y clwb a roedd e’n canmol dylanwad y dorf ar y noson.

“Oedd hi wedi bod yn wythnos emosiynol i fod yn onest, ar ôl clywed y newyddion,” meddai’r Llew.

“Oedd e wedi cael ei adeiladu lan trwy’r wythnos ac o’n ni moen rhoi perfformiad mewn heno i Peter a’r teulu.

“Oedd e’n haeddu hynny a fi’n falch bod ni wedi cael y fuddugoliaeth yn y diwedd.

“O’n ni’n haeddu’r fuddugoliaeth. Am rhan fwyaf o’r amser o’r gêm o’n ni ar y top.

“Roedd y blaenwyr yn arbennig, roedd y sgrym yn arbennig a roedd y cicio mas o’r llaw yn arbennig hefyd.

“Mae lot o lefydd i ni wella cyn wythnos nesaf ond ni’n fel carfan, ar ôl popeth ni wedi bod drwyddo, ein bod ni’n wedi cael canlyniad fel ‘na heno.

“Cyn y gêm roedd moment o dawelwch a cymeradwyaeth, a roedd hynny’n eithaf emosiynol i ni fel carfan.

“Ond roedd y dorf yn wych ac yn llawn llais heno. O’n nhw’n canu ac efallai wedi rhoi y 10 y cant ychwanegol o’n ni eisiau i gael y fuddugoliaeth, felly diolch iddyn nhw am ddod mas.”

Mae’r fuddugoliaeth dros Sale yn golygu y bydd Caerdydd yn teithio i’r Eidal penwythnos yma er mwy herio Benetton yn y chwarteri - a mae’r asgellwr yn hyderus y gall ei dîm barhau i gystadlu yn y Cwpan Her: “Ni’n hyderus ein bod ni’n gallu mynd yn bell yn y gystadleuaeth yma, wrth gwrs. Pam lai ar ôl y fuddugoliaeth yma?

“Sai’n credu fod neb wedi edrych ar y gêm yma cyn y gic gyntaf a meddwl ein bod ni’n mynd i ennill.

“Mae’r bois wedi bod yn chwarae yn dda cyn dod i mewn i’r gêm yma. Ni’n falch fel carfan i gael y fuddugoliaeth ac o’n ni’n haeddu fe.”