Blog Banner

Adams yn siomedig ar ôl i fuddugoliaeth dros y Springboks lithro o afael Cymru

Cymraeg | 8th November 2021


Mae Josh Adams yn credu fod Cymru wedi dangos fod ganddynt y gallu i drechu De Affrica, ond fod angen bod yn fwy clinigol wrth ymosod yn erbyn pencampwyr y byd.

Roedd Cymru ar y blaen gyda dim ond saith munud yn weddill dydd Sadwrn, ond fe wnaeth cais hwyr Malcolm Marx a chic gosb Francois Steyn sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Springboks mewn gornest gorfforol yn y brifddinas.

Yn siarad gyda Prime Video ar ôl yr ornest, roedd seren Caerdydd, Adams, yn falch o weld ei dîm yn mynd ben-ben â pencampwyr y byd ond yn siomedig nad oeddent wedi cipio’r fuddugoliaeth.

“Fi wedi colli yn erbyn De Affrica cwpwl o weithiau nawr gyda cyfanswm o rhyw naw pwynt rhwng y gemau,” meddai’r asgellwr, oedd hefyd yn rhan o garfan y Llewod ar y daith i De Affrica dros yr Haf.

“Mae De Affrica yn dîm corfforol iawn ond ni’n credu mai ni oedd y tîm gorau am y rhan fwyaf o’r gêm yna.

“Ond yn y 10 munud olaf fe gollon ni’r gêm pan daeth hi’n arm-wrestle.

“Ni’n gwybod beth sydd i ddod gan De Affrica - gêm cicio cywir a fe wnaethant wneud hynny’n dda.

“Ond fi’n siomedig bod ni heb allu ennill y gêm yna heddiw.

“Yr ateb i ni yw bod yn fwy clinigol. O’n ni ddim yn clinical pan oedd hi’n amser i ni fod.

“O’n ni’n creu y cyfleuon i ni chwarae, a fe wnaeth y tywydd chwarae ei ran gyda’r bêl yn yr awyr am lot o’r gêm.

“Ond, os ydym ni fel tîm am symud ymlaen bydd rhai i ni gymryd y cyfleuon ni’n cael.”

Mae tocynnau ar gael NAWR i wylio Cymru yn herio Ffiji dydd Sadwrn, gan gychwyn o £10 yn unig. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 20 30 20 30 (9yb - 5yh)

Bydd giatiau Parc yr Arfau ar agor unwaith eto wythnos yma ar gyfer Pentre'r Cefnogwyr Swyddogol Guinness. Ymunwch â ni yng nghalon y brifddinas o 11yb dydd Sul ar gyfer cerddoriaeth byw, digon o fwyd a diod a darllediad byw o gemau rygbi'r prynhawn.