Blog Banner

Adams yn setlo mewn i fywyd gyda Gleision Caerdydd

Cymraeg | 5th December 2019


Mae Josh Adams yn dweud ei fod wedi setlo mewn i’w fywyd newydd ar ôl ymuno â charfan Gleision Caerdydd am y tro cyntaf wythnos yma.

Yr asgellwr oedd prif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd yn Japan yn gynharach eleni, gan groesi’r gwyngalch saith gwaith a thori record Cymru, gafodd ei osod gan Shane Williams.

Ond mae’r asgellwr rhyngwladol yn mynnu fod sialens o’i flaen i ennill ei le ymysg cefnwyr ei ranbarth newydd, wrth iddo gystadlu â chwaraewyr fel Aled Summerhill, Owen Lane, Hallam Amos a Jason Harries i sefydlu ei hun yn nhîm John Mulvihill.

Dywedodd Adams: “Mae hi wedi bod yn wythnos dda. Roedd hi’n brofiad newydd i ddod i mewn i’r clwb dydd Mawrth, a oedd e fel dechre’ ysgol newydd eto.

“Ond mae pawb yma wedi bod yn dda a fi’n ‘nabod lot o’r bois o chwarae gyda nhw i Cymru dan-20 a pethe’ fel ‘na.

“Gobeithio gallai gael fy gêm cyntaf dros y penwythnos nawr.

“Fi erioed wedi bod yn rhan o garfan tîm cyntaf yng Nghymru. O ni yn yr academi yn y Scarlets.

“Mae e’n eitha’ newydd i fi, ond fi wedi joio.

“Oni’n chwarae ar gae fel hyn lan yn Worcester, felly dyw hynny ddim yn newydd i fi. Mae’n siwtio fi, oherwydd mae’n cae gyflym a mae’r ffordd mae’r Gleision yn chwarae yn siwtio fi hefyd.

“Mae nhw’n hoffi taflu’r pêl rownd a mae chwaraewyr da yma. Mae Jarrod a Tomos yn chwarae yn gloi a mae nhw’n chwarae heads-up rugby. 

“Gobeithio gallai gael y bêl dros y penwythnos a creu cyfleuon i ni.

“Y targed i fi yn bersonol yw i fod yn y tîm pob wythnos os fi’n gallu, peidio cael anafiadau a chwarae yn dda.

“Mae lot o fois wedi gwneud yn dda cyn i mi ddod ‘ma, felly os fi’n cael siawns bydd rhaid i fi chwarae yn dda i gadw’r crys.”

Gallai Adams ymddangos dros Gleision Caerdydd am y tro cyntaf yn yr ornest Cwpan Her Ewrop yn erbyn Pau nos Sadwrn ym Mharc yr Arfau.

Mae’r cyn chwaraewr Worcester Warriors yn disgwyl tasg anodd yn erbyn y tîm o Ffrainc a mae’n credu fod rhaid i’r Gleision gael buddugoliaeth er mwyn cadw eu gobeithion yn y gystadleuaeth yn fyw.

“Fi wedi chwarae yn erbyn Pau o’r blaen, gyda Worcester. Fel pôb tîm o Ffrainc, mae chwaraewyr da gyda nhw a lot o arian gyda nhw,” meddai Adams.

“Mae bois mawr gyda nhw yn y pac a mae nhw’n gryf lan yn y ffrynt. 

“Mae asgellwr da gyda nhw o’r enw Votu a bydd rhaid i ni fod yn dda yn yr amddiffyn.

“Gobeithio gallwn ni greu cyfleuon wrth ymosod, yn enwedig gyda’r ffordd ni’n chwarae.

“Gobeithio gallwn ni gael canlyniad da ar y penwythnos. Mae’r gêm yma yn bwysig i ni os ni am fynd mewn i’r quarter finals yn y Cwpan Her.

“Ni moen cyrraedd y knockout stages, a mae hynny’n gôl eithaf realistig i ni. 

“Ni wedi ennill y gystadleuaeth o’r blaen a ni moen gwneud yn dda unwaith eto.”

Mae tocynnau i wylio Gleision Caerdydd yn herio Pau ar gael NAWR - lle bydd sêr Cwpan y Byd Cymru yn dychwelyd i'r rhanbarth!