Blog Banner

Adams yn barod am y ‘Boks ar ôl wythnos emosiynol

Cymraeg | 19th July 2021


Mae Josh Adams yn cyfaddef ei bod hi wedi bod yn wythnos emosiynol iddo yn Ne Affrica ar ôl i’w ferch, Lottie, gael ei geni wythnos diwethaf.

Roedd rhaid i’r asgellwr dynnu mas o’r ornest yn erbyn De Affrica A wythnos dwythaf, er mwyn ymuno â’i bartner, Georgia, dros Zoom ar gyfer y genedigaeth.

Ond, roedd Adams yn ôl yn y crys coch enwog dydd Sadwrn wrth i’r Llewod wynebu DHL Stormers yn eu gêm olaf cyn y gyfres yn erbyn y Springboks.

Nawr mae’r ffocws yn troi at y gyfres yn erbyn tîm Rassie Erasmus, a gyda wyth cais mewn pedwar ymddangosiad hyd yn hyn, mae'r seren Rygbi Caerdydd yn gobeithio ei fod wedi gwneud digon i haeddu ei le ar gyfer yr ornest gyntaf yn Cape Town wythnos nesaf.

Yn siarad gyda S4C, dywedodd Adams: “Oedd e’n eithaf galed i ddweud y gwir. O’n i’n siarad gyda nhw cyn dod mewn i’r stadiwm heddiw, ac o’n i’n bach yn emosiynol.

“Felly oedd e’n galed, a oedd rhaid cadw’r emosiwn mewn rheolaeth.

“Roedd y genedigaeth yn brofiad gwahanol ond roedd e’n rhywbeth oedd rhaid i fi wneud.

“Roedd rhaid i fi wylio fe’n digwydd gan fod e’n rhywbeth enfawr yn bywyd fi ac ym mywyd Georgia hefyd. O’n i byth am golli’r cyfle i wylio hynny.

“Byddai [chwarae yn y gemau Prawf] yn rili neis i fi a’r teulu yn ôl gartref hefyd. Fi wedi dod mas fan hyn yn gwybod beth oedd y sacrifice oedd rhaid i fi wneud, felly byddai’n neis i fi cael gêm yn un o’r tri Prawf.”