Mae Josh Adams yn benderfynol o gychwyn y tymor ar y droed cywir wrth i Gleision Caerdydd baratoi i wynebu Zebre yng ngornest agoriadol tymor y Guinness PRO14.
Mae’r asgellwr wedi bod ar dân ers ymuno â’r rhanbarth, gan sgorio saith cais mewn wyth gêm, gan groesi dros y llinell galch yn y gemau diweddar yn erbyn Scarlets a’r Gweilch.
A mae’r seren rhyngwladol yn gobeithio parhau i berfformio dros glwb a gwlad, gyda tymor hynod brysur o’i flaen.
Dywedodd Adams: “Fi’n edrych ymlaen nawr i ddechrau’r tymor. Mae’n teimlo fel sbel ers i ni chwarae diwethaf, a fel carfan ni’n edrych ymlaen i fynd mas i Zebre dydd Gwener a dechrau ar y droed cywir.
“Mae pob tîm o’r Eidal yn gryf nawr a bydd hi’n gêm galed mas ‘na.
“Ond ni’n edrych ymlaen i sialens. Ni wedi ymarfer yn wych wythnos yma a mae pawb yn y garfan moen mynd mas a perfformio yn dda ac ennill y gêm.
“Mae cysondeb ni wedi bod ychydig bach lan a lawr felly ni moen cadw consistency yn gêm ni.
“Ni moen aros yn y gêm yn hirach a bod yn y gêm tan y diwedd felly ni’n edrych ymlaen i, gobeithio, dechrau’n dda mas yn Yr Eidal.
“Mae lot o gemau yn dod lan i ni, yn enwedig gyda’r Autumn Nations Cup yn dod hefyd.
“Mae lot o gemau ac, os ydym ni’n cael ein dewis i carfan Cymru, bydd saith gêm i ni yn fan ‘na.
“Ond mae dwy gêm gyda’r Gleision i ddod gyntaf.
“Y sialens a’r targed i fi yw dechrau’r tymor ble o’n i wedi gorffen yn y gemau yn erbyn y Gweilch a’r Scarlets.
“O’n i’n teimlo fod consistency yn dod yn ôl i gêm fi ar ôl yr anaf yn y Chwe Gwlad a oedd e’n neis i gael y gemau cyntaf ‘na yn ôl.
“O’n i ddim yn teimlo 100 y cant yn y ddwy gêm diwethaf ond fi’n ymarfer pob dydd i geisio bod mor agos i hynny a phosib.”