Blog Banner

Y dyfodol yn edrych yn ddisglair - Llewellyn

Cymraeg | 27th April 2021


Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gaerdydd, yn ôl Max Llewellyn, ar ôl i nifer o chwaraewyr ifanc y clwb chwarae eu rhan yng ngornest agoriadol Cwpan yr Enfys y Guinness PRO14.

Er i ddynion Dai Young golli yn erbyn tîm profiadol y Gweilch, fe serennodd y canolwr ifanc, gan sgorio cais agoriadol i’r tîm oddi cartref, a chreu cais i’r mewnwr Ellis Bevan.

Roedd Bevan ac Immanuel Feyi-Waboso yn gwneud eu ymddangosiadau cyntaf dros y clwb, tra roedd chwaraewyr ifanc o’r academi fel Gwilym Bradley, Alun Lawrence a Teddy Williams hefyd yn cael cyfle yn y tîm cyntaf.

Gyda llai o gyfleuoedd i chwarae o wythnos i wythnos o ganlyniad i’r pandemig, roedd Llewellyn yn falch o gael munudau ar y cae a mae’n teimlo ei fod yn datblygu trwy weithio â hyfforddwyr fel Young a Richie Rees.

“Yn yr hanner cyntaf, roedd ciciau cosb yn mynd yn erbyn ni yn y sgrym a’r llinellau, a roedd hi’n anodd i ni fynd i fewn i’r gêm,” meddai’r cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf.

“Ond yn yr ail-hanner, roedd hi’n gêm fwy agored a o’n ni’n chwarae gêm gwell. Roedd mwy o feddiant gyda ni, yn cadw’r bêl yn well, ac o’n ni’n chwarae mwy o rygbi.

“Rwy’n falch iawn o gael munudau ar y cae, yn enwedig eleni gan fod dim gemau dros Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair neu i’r tîm ‘A’. Felly oedd hi’n neis i gael munudau o dan y belt.

“Ar gyfer y cais, nes i newid safle gyda Owen, a rhedeg yn syth tuag at y sianel 10. Roedd y lle wedi agor lan, a roedd Ben wedi rhoi pêl dda i fi fynd drwyddo.

“Nes i weld y cefnwr, a roedd Dai a Richie wedi dweud fod rhaid i fi fod yn fwy pendant felly nes i rhoi fy mhen i lawr a ceisio mynd am y llinell.

“Mae’n dda i’r cefnogwyr allu gweld fod chwaraewyr yn cael eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Fel chwaraewyr, mae gyda ni perthynas da gyda’n gilydd a ni wedi chwarae gyda’n gilydd trwy’r academi.

“Felly mae’r cysylltiadau yna’n barod a gobeithio ein bod ni’n gallu datblygu i fod y chwaraewyr nesaf i ddod trwy.

“Mae’r lefel yma yn lot fwy corfforol a chyflym. Fi’n lwcus bod gyda fi maint, felly dyw’r ochr corfforol ddim mor wael, ond yn sicr mae’r gêm yn lot fwy cyflym.

“Fi dal yn ifanc, a felly fi’n ceisio datblygu ym mhob gêm. Beth bynnag fi’n gweithio arno wrth ymarfer, fi’n ceisio cymryd e mas ar y cae.”