Blog Banner

Rhaid trîn pob gêm fel ffeinal o hyn ymlaen - Lewis

Cymraeg | 2nd April 2021


Bydd rhaid i Gleision Caerdydd drîn pob gêm fel ffeinal, gan gychwyn gyda London Irish prynhawn dydd Gwener, os yw nhw am barhau â’u gobeithion yng Nghwpan Her Ewrop, meddai Dillon Lewis.

Ar ôl bod yn rhan o garfan Cymru dros y Chwe Gwlad a dioddef o anaf byr-dymor, mae’r prop yn cychwyn yng nghrys ei glwb am y tro cyntaf ers Dydd San Steffan.

Mae Lewis yn disgwyl gêm agored a chyffrous yn Llundain, ac yn benderfynol o rhoi gwên ar wynebau’r cefnogwyr, sydd yn methu bod yno i gefnogi o ganlyniad i’r pandemic.

“Ni wedi bod yn gwylio London Irish yn ystod yr wythnos, a mae nhw’n dîm da. Mae nhw’n chwarae rygbi cyffrous a bydd hi’n gêm anodd,” meddai’r seren ryngwladol.

“Fel tîm o Lloegr, ni’n gwybod bod y bydd pac mawr gyda nhw, a dyw nhw ddim just am y rygbi ffansi.

“Bydd e’n sialens anodd i ni ond fel tîm ni yn edrych ymlaen ato fe a fi’n siwr bydd hi’n gêm dda.

“Mae llawer o hanes yn y twrnament yma gan y clwb, a mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i pawb. Dyw’r cefnogwyr ddim yn gallu dod i’r gemau i wylio, felly os ni’n gallu mynd ymlaen yn y gwpan yma, bydde fe’n wych i cefnogwyr ni.

“Ni eisiau rhoi gwên ar eu wynebau nhw a fel tîm mae cael rhediad yn y cwpan yma yn rhywbeth ni’n canolbwyntio arno.

“Fi’n gwylio llawer o gemau’r Gallagher Premiership. Mae nhw’n gemau da a mae London Irish yn benodol yn chwarae brand gwych a chyffrous o rygbi.

“Felly ni’n gwybod beth i ddisgwyl dros y penwythnos, ac mae pob gêm o’r pwynt yma yn teimlo fel ffeinal.

“Mae hynny’n rhywbeth ni wedi trafod lot yn yr wythnos a ni gyd eisiau symud ymlaen a cael gêm arall wythnos nesaf.”

Mae Lewis yn falch i fod yn ôl yn chwarae, a mae’n benderfynol o gael rhediad da yng nghrys ei glwb cartref.

Dywedodd y prop: “Sai’n gwybod sut fi wedi dod yn ôl o’r anaf mor gyflym, a mae’n eithaf lwcus i ddweud y gwir.

“Ond nawr gallai edrych ymlaen i’r gemau sydd i ddod, gan gychwyn gyda cwpan Ewrop dros y penwythnos. 

“Bydd hynny’n gyffrous, a ni wedi cael wythnos da o ymarfer nawr, felly mae’r bois yn barod ac yn edrych ymlaen i chwarae prynhawn dydd Gwener.

“Oedd e’n siomedig i fi gael yr anaf ond dyna yw rygbi. Mae pethau fel yna yn digwydd.

“Mae nifer o ups and downs, ond mae’n rhaid i ti ddelio gyda hynny. Fi wedi dod i ddeallt llawer am hynny a mae’n rhaid symud ymlaen a canolbwyntio ar y rygbi.

“Mae tipyn o gemau ar ôl nawr, a fi eisiau chwarae yn pob un a cael rhediad da yng nghrys Gleision Caerdydd.

“Ond mae’n rhaid i fi wneud yn siwr mod i’n chwarae yn dda hefyd os fi am cael fy newis yn fan hyn. Mae na fois da yn chwarae yn yr un safle a fi yma a fi’n edrych ymlaen i’r gystadleuaeth.