Blog Banner

Gallwn gymryd hyder o'r fuddugoliaeth dros Munster ar y daith i Glasgow - Davies

Cymraeg | 22nd September 2022


Mae Seb Davies yn credu gall Gaerdydd gymryd hyder o’u buddugoliaeth agoriadol dros Munster pan fydd clwb y brifddinas yn teithio i Glasgow ar gyfer yr ornest nos Wener (CG 7.35yh).

Yn dilyn tymor cryf llynedd, fe wnaeth y clo rhyngwladol greu argraff unwaith eto yn erbyn y Gwyddelod wrth i dîm Dai Young gychwyn y tymor gyda pedwar pwynt.

Roedd Davies yn credu fod nifer o agweddau positif i’r perfformiad ym Mharc yr Arfau ond mae wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i barhau â’r rhediad i ffwrdd o gartref.

“Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi llawer o hyder i ni oherwydd mae Munster wedi bod yn dîm da iawn dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Davies.

“Mae nhw pob tro reit lan top y tabl felly gallwn ni gymryd llawer o hyder o’r gêm ac edrych ymlaen at Glasgow wythnos yma.

“Pan o’n ni wedi colli momentwm yn y gêm, o’n ni’n troi at yr awyr a ceisio gael y bêl yn ôl, lle bydden ni wedi gor-chwarae yn y gorffennol.

“Fel tîm o’n ni wedi cicio’r bêl yn dda, wnaeth roi cyfle i ni gael meddiant mewn safle gwell.

“Oedd e’n dda, roedd y tempo yn uchel, roedd hi’n gêm gorfforol a roedd hi’n ddiwrnod da hefyd gyda’r haul mas.

“Roedd hi’n gêm lle roedd y bêl ar y cae am amser hir a nes i rili joio fe.

“Mae’n bwysig, ar ôl cael momentwm yn erbyn Munster, ein bod ni’n cario hynny ymlaen yn erbyn Glasgow.

“Ni’n edrych ymlaen i’r sialens. Mae nhw’n dîm da iawn ond ar ôl colli yn erbyn Treviso gobeithio bydd cyfle da gyda ni i ennill y gêm.”