Blog Banner

Bydd hi'n aduniad arbennig gyda torf Parc yr Arfau - Young

Cymraeg | 18th July 2022


Mae Thomas Young yn edrych ymlaen i gael aduniad arbennig gyda Parc yr Arfau Caerdydd, wrth iddo ddychwelyd i’r brifddinas cyn y tymor newydd.

Daeth y blaenasgellwr trwy academi’r clwb i wneud 19 ymddangosiad dros y tîm cyntaf cyn symud ymlaen i dreulio cyfnod gyda Gloucester a Wasps.

Ond mae Young, sydd wedi ymuno â charfan y tîm cyntaf wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ymgyrch newydd, yn barod i gychwyn ar ei waith, a mae’n hyderus y bydd y gystadleuaeth am lefydd yn y rheng-ôl ym Mharc yr Arfau yn gwneud lles i’r tîm cyfan.

“Fi’n hapus iawn i fod yma nawr. Mae hi wedi bod yn naw mlynedd, felly fi’n hapus i gael dechrau eto,” meddai Young.

“Nes i dyfu lan yn gwylio Caerdydd, a nawr fy mod i’n chwarae iddyn nhw mae’n foment mawr i fi a’r teulu. Fi’n methu aros i ddechrau.

“Fi’n edrych ymlaen i chwarae yma oherwydd mae hi’n naw neu ddeg mlynedd ers i fi redeg mas ar Barc yr Arfau.

“Pan bydd y moment yna yn cyrraedd eto, byddai’n gallu joio fe.

“Mae atmosffer unigryw yma, a mae’r dorf reit ar ben ti. Allai ddim disgwyl tan mis Medi!

“Mae’r gystadleuaeth yn y rheng-ôl yma yn arbennig felly gobeithio gallwn wthio ein gilydd ymlaen.

“Byddai hynny dim ond yn gwella Caerdydd, felly mae’n rhaid i ni gyd rhoi ein troed gorau ymlaen.

“Mae hi wedi bod yn galed yn ymarfer hyd yn hyn, ac yn boeth iawn, ond fi wedi joio hyd yn hyn.”