Blog Banner

Balchder Cabango dros gynrychioli ei glwb cartref

Cymraeg | 17th December 2021


Mae Theo Cabango yn ei chael hi’n anodd cyfleu mewn geiriau y balchder mae’n ei deimlo ar ôl cynrychioli ei glwb cartref penwythnos diwethaf.

Fe wnaeth y cyn ddisgybl Glantaf a Plasmawr greu argraff yn erbyn Toulouse ar ei ymddangosiad cyntaf, a mae’n cadw ei le i wynebu Harlequins yn Twickenham Stoop brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n diwrnod i gofio i’r teulu Cabango ym Mharc yr Arfau, ac yn un y bydd Theo yn ei gofio wrth iddo ddilyn chwaraewyr fel Jamie Roberts, Teddy Williams a’r brodyr Robinson yn cynrychioli’r clwb.

“Fi methu rhoi e mewn geiriau. Fi’n dal i gofio tyfu lan a gweld Teddy Williams yn gwisgo crys Caerdydd,” meddai’r chwaraewr academi.

“Mae’n anhygoel a fi’n prowd i ddangos i bawb pa mor bell dwi wedi dod.

“Mae’n eithaf emosiynol achos yn blwyddyn saith o’n i’n gyflym ond ddim yn dda iawn yn chwarae rygbi.

“Ond nawr fi’n teimlo mod i wedi dod yn bell o lle nes i gychwyn a mae’n sbesial i ddangos pwy fi’n chwarae i nawr.

“Oedd e’n ffantastig ac yn amazing i fod yn onest. O’n i’n prowd iawn o beth o’n ni fel tîm wedi gwneud.

“O’n ni wedi dangos llawer o gymeriad yn y gêm ac wedi ceisio chwarae rygbi agored.

“Fel tîm, o’n ni wedi gadael popeth mas ar y cae i’r dorf ac oedd e’n amazing i chwarae o flaen pawb.

“Un o’r pethau fi’n cofio oedd cerdded o gwmpas y cae, a lot o blant ifanc yn gofyn am lun.

“Oedd un wedi gofyn am fy nghrys i hefyd, ond o’n i’n methu rhoi e oherwydd roedd Dad eisiau fe!

“Oedd e’n anhygoel i weld gymaint o bobl mas yn cefnogi’r tîm.”

Tra roedd Cabango yn gwynebu pencampwyr Ewrop, roedd ei frawd, y pel-droediwr Ben, yn Abertawe yn paratoi i herio Nottingham Forest.

A mae Theo yn dweud ei fod wedi derbyn cyngor gwerthfawr gan y pel-droediwr rhyngwladol.

Esboniodd yr asgellwr: “Y noson cynt roedd Ben wedi gofyn i fi sut o’n i’n teimlo.

“O’n i’n dweud mod i methu aros ond heffyd yn nerfus am y gêm. Felly o’n i’n gallu gofyn iddo fe sut mae e’n delio gyda hynny.

“Felly fe wnaeth e rhoi cyngor i fi gymryd mewn ac ar ôl hynny roedd rhaid i fi droi ffon fi bant achos o’n i methu cysgu.

“Nes i siarad gyda fe yn y bore hefyd ac ar ôl y gêm ac oedd e’n neis i siarad gyda fe.”

Ond nawr mae ei ffocws yn troi at y daith i Llundain, a mae Cabango yn hyderus gall ei dîm achosi digon o broblemau i bencampwyr Lloegr, wrth iddo ymuno â sêr rhyngwladol fel Josh Adams, Willis Halaholo a Rey Lee-Lo ymysg y cefnwyr.

 “Ni ddim am geisio newid lot, ni am geisio cadw’r un ffocws ar y gêm yma eto.

“Ni eisiau mynd mas i chwarae a dangos i bawb beth ni’n gallu gwneud.

“Mae’r bois wedi camu lan i’r plat a nawr ni’n ffocysu ar beth ni’n gallu gwneud.

“Mae’n rhoi hwb i’ch hyder chi pan chi’n chwarae gyda bois sydd efo profiad.

“Mae lot o gyflymder a ‘steps’ yn y cefnwyr felly mae siawns da gyda ni yn erbyn Harlequins.”