Blog Banner

Adams yn benderfynol o helpu sêr ifanc Gleision Caerdydd

Cymraeg | 18th August 2020


Mae Josh Adams yn benderfynol o ddefnyddio ei brofiad i helpu rhai o sêr ifanc disgleiriaf y rhanbarth.

Yr asgellwr yw gwestai diweddaraf Podlediad Gleision Caerdydd - gyda sgwrs ddyfn â’r seren rhyngwladol ar gael ar y prif lwyfannau digidol o yfory.

Ar y bennod, mae Adams yn trafod ei fywyd dan glo yn ystod y pandemig, rôl yr iaith Gymraeg yn ei fywyd yn ogystal ag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei yrfa hyd yn hyn.

Mae’r asgellwr rhyngwladol hefyd yn trafod y siom o gael ei ryddhau gan y Scarlets, a sut lwyddodd i brofi pwynt yn ystod ei gyfnod gyda chlwb Worcester Warriors. A nawr mae Adams yn benderfynol o helpu chwaraewyr ifanc Gleision Caerdydd i gyrraedd eu potensial.

Dywedodd prif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd: “Pan nes i adael y Scarlets, roedd yr academi yn ymarfer ar wahan i’r tîm cyntaf. Mae amserlen gwahanol gyda nhw i ymarfer.

“Ond lan yn Worcester, roedd yr academi a’r tîm cyntaf gyda’i gilydd. 

“Roeddwn i’n ymarfer gyda pobol fel Francois Hougaard, Ben Te’o ac asgellwyr gwych fel Bryce Heem, oedd wedi dod drosodd o Seland Newydd ac yn chwaraewyr ardderchog, a Chris Pennell y cefnwr.

“O’n i’n ymarfer gyda bois fel hyn ac yn dysgu lot drwy ymarfer gyda nhw. Hyd yn oed wrth eistedd ar yr ochr a gwylio nhw, ti yn dysgu pethe’.

“Yn y Gleision fan hyn, mae bois yr academi yn ymarfer gyda ni a mae hynny’n wych. Mae nhw am ddysgu lot mwy o ymarfer gyda ni ‘na neith nhw yn ymarfer dim ond fel academi.

“Fi’n credu bod yr academi a’r tîm cyntaf yn ymarfer gyda’i gilydd yn beth da i’r bois ifanc.

“Yn ymarfer heddi’, roedd bois fel Ioan, sydd yn chwarae cefnwr, a Mason, sydd newydd ddod i mewn i’r academi, yn ymarfer ar yr asgell.

“Fi wastad yn siarad gyda nhw. Os mae nhw moen gofyn rhywbeth i fi, gall nhw gofyn rhywbeth mae nhw moen, a fi’n ceisio gwylio nhw i roi neges sut i wella.

“Fi’n hoffi gwneud hynny, a fi’n hoffi gweithio gyda’r bois ifanc achos fi’n gwybod beth mae’n teimlo i fod yn esgidiau nhw.

“‘Na pham fi moen rhoi rhywbeth yn ôl i nhw a rhoi bach o profiad fi iddyn nhw, i nhw gael bod yn chwaraewyr gwell.”

Ar ôl perfformiadau ffrwydriol yng nghrys Cymru, ymunodd Adams â chlwb ecsgliwsif iawn yn 2019, wrth iddo orffen Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan fel prif sgoriwr ceisiau y gystadleuaeth.

Daeth ei ymgyrch i ben gyda cais yn erbyn Seland Newydd yn y gêm efydd, gan sgorio un cais yn fwy nag asgellwr y Springboks, Makazole Mapimpi.

A mae Adams yn cyfaddef nad oedd modd ei stopio rhag seilio’r wobr yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon.

Ychwanegodd Adams: “Fi wedi bod yn chwarae i Cymru ers dros dwy flynedd a ges i Camp Lawn, semi final Cwpan y Byd a bod yn prif sgoriwr.

“Mae e’n rili neis i cael enw fi ar y list, a bydd e wastad ‘na, gyda chwaraewyr world class, fel Jonah Lomu, Julian Savea a Bryan Habana. Chwaraewyr arbennig, a fi ar y list ‘na.

“Mae e’n eithaf crazy pan fi’n meddwl amdano fe.

“Oedd mindset gyda fi’n mynd mewn i’r gêm yn erbyn Seland Newydd. O’n i wedi sgorio chwe cais, a oedd asgellwr De Affrica, [Makazole] Mapimpi, ar pump.

“O’n i’n gwybod fod siawns o fe’n sgorio yn y ffeinal yn erbyn Lloegr, ond os o’n i am ennill e o’n i ddim moen rhannu y wobr.

“Oedd mindset fi yn mynd mewn i’r gêm yna yn dweud fod rhaid i fi sgorio. Os mae e’n cais o 50 metr neu o un metr, fi ddim yn poeni, fi moen cais.

“Yn y diwedd, cais o un metr oedd e! Oni’n chwarae ar yr asgell chwith, ond o’n i ar ochr y cae, gyda’r blaenwyr, yn gwneud pick-and-gos. ‘Na gymaint o’n i moen sgorio.

“Ges i’r cais yn y diwedd, ac os ti’n cael y clip lan, ti’n gallu gweld y wên ar wyneb fi. Fi’n gwybod fod siawns da gyda fi nawr, ac wedi curo record Shane, a bydde rhaid i Mapimpi sgorio dau neu tri cais os yw e eisiau cael y record.”

Wedi misoedd o aros, fe wnaeth Adams ymddangos yng nghrys Gleision Caerdydd am y tro cyntaf yn erbyn Pau yn Nghwpan Her Ewrop.

A daeth ei berfformiadau ar y llwyfan rhyngwladol yn syth i’r lefel rhanbarthol, wrth iddo goroni ei ymddangosiad cyntaf gyda hat-trig syfrdanol.

Cofiai Adams: “Oedd e’n teimlo fel ages, achos o’n i’n aros ac aros ac aros i gael y cyfle. O’n i wedi seinio cyn y Nadolig a gorfod aros bron naw mis i gael y siawns i wisgo’r crys.

“Ond o’n i’n falch i gael y cyfle ac i wneud e adref yn Gaerdydd, roedd hynny’n neis hefyd. 

“Y gêm ‘na’n erbyn Pau siwr o fod yw perfformiad gore’ ni o’r tymor. 

“Mae fel striker mewn pel-droed, mae disgwyl i asgellwr sgorio cais. Felly wrth gwrs mae cais fel ‘na yn tynnu’r pwysau yn syth.

“Mae wastad yn neis i sgorio, ond yn enwedig ar gêm cyntaf ti, adref yng Nghaerdydd. Oedd bois Cymru yn ôl ar gyfer y gêm, fel Tomos a Hallam, oedd wedi chwarae un gêm cyn hynny.

“Oedd e’n neis i chwarae gyda nhw, ond i gael cais yn y 10 munud cyntaf, oedd hynny’n wych.

“Oedd e’n cais arbennig hefyd. Wnaeth Jarrod wneud rhywfath o magic i fynd mewn a mas rhwng chwaraewyr Pau, Tomos yn gwneud flick a roedd hi’n pas hawdd i Olly a o’n i ar ysgwydd e i gael y pêl a rhoi e lawr.

“Os ti’n gwylio’r gêm ‘na’n ôl, ti’n gallu gweld o’r ffordd ni’n chwarae bod lot o hyder gyda ni. Roedd popeth o’n i’n treial yn dod bant.

“Fi’n credu gwnaeth bron pawb o’r cefnwyr wedi sgorio yn y gêm ‘na, a gêm cyntaf Ben Thomas oedd wedi chwarae yn arbennig. Aeth e ymlaen i ddechrau’r gemau darbi dros y Nadolig hefyd.

“Oedd e’n gêm cyntaf i fi chwarae gyda Rey hefyd a o’n i’n gallu gweld fod e’n chwaraewr arbennig. Mae e’n rili pwysig i ni fel tîm.

“Ond i fynd ymlaen i sgorio tri cais yn y diwedd, ie, oedd e’n class.

“Oedd teulu fi wedi dod i wylio’r gêm a roedd hynny’n moment neis.”

Mae holl bennodau Podlediad Gleision Caerdydd, gan gynnwys pennodau Cymraeg dmweddar gyda Jamie Roberts a Nicky Robinson, ar gael NAWR ar y prif lwyfannau digidol, gyda'r cyfweliad yng nghwmni Josh Adams yn cael ei ryddhau dydd Mercher, Awst 19.